| Freebies for Fairtrade Fortnight |
Dear Schools,
Are you doing something for Fairtrade Fortnight? We want to count how many schools are doing something for Fairtrade, however big or small. Click on the button below:
|
|
Order your free Fairtrade Cotton resource CD
In conjunction with supporting organisations, Fair Trade Wales has put together a schools resource CD on cotton containing lesson plans, assemblies, short films and more for primary and secondary schools. To order your free copy email schools@fairtradewales.com or download a sample of materials direct from our website:
www.fairtradewales.com/schools/resources/493 (English)
www.fairtradewales.com/ysgolion/adnoddau/614 (Cymraeg) |
|
Holding your own Tea Party?
Schools up and down Wales will be holding their own Tea Parties. Feel free to link with other schools and hold a joint event. Schools will be holding their Tea Parties on the 5th March (although if you can’t join the national date, you can hold one on another date which suits you). The idea behind them is to raise awareness of Fairtrade, using Fairtrade products during the Tea Party but also explaining a bit about what Fairtrade is. Feel free to use the assemblies in the resource CD or resources from our website, I’d particularly recommend the Fairtrade Song about tea and cotton: www.fairtradewales.com/schools/resources/493
Tea Party Tips
Some Fairtrade ideas for your own Tea Party include:
- Fairtrade cakes made in a cookery lesson (using Fairtrade sugar, chocolate or bananas for more recipes see: www.fairtrade.org.uk/products/recipes.aspx)
- Fairtrade Juice (orange, apple, tropical) available from a number of retailers (e.g Co-op)
- Fairtrade tea, coffee and sugar
- Fairtrade aprons, mugs, tablecloths, tea towels (and even Fairtrade rubber gloves for the washing up afterwards!) – have a look at Traidcraft (www.traidcraft.org.uk) and Oxfam for some of these items. Mugs and aprons available from online.fairtrade.org.uk, fabric for table clothes from: www.organiccotton.biz and more!
- You could make your Tea Party a Teddy Bear’s Picnic or a Mad Hatter’s Tea Party, and perhaps invite parents, grandparents or community members. Or tie into world book day.
- Why not make some posters or pictures to display at your Tea Party?
|
|
The Big Swap
One million and one people will be pledging big swaps! What’s a big swap? Think of a product that your school regularly buys and swap it for a Fairtrade alternative. How about switching the tea and coffee in the staffroom to Fairtrade! Or tea and coffee served to visitors? How about switching something in your tuckshop to a Fairtrade alternative? You could turn the big swap into a school project, and look into something more exciting such as Fairtrade school uniforms, or asking your LEA to supply more Fairtrade to the school (pupils can write letters)? There are many options, but whatever you swap, make sure you register on the big swap website www.thebigswap.org. Free events packs, including posters and stickers available from http://online.fairtrade.org.uk/product_details.asp?id=5010 (welsh posters also available http://online.fairtrade.org.uk/productslist.asp?attid=43&pagenum=1 )

Finally, if you’d like a Fair Trade Speaker visiting your school contact Martha, a Fair Trade craft producer, on 07879 400897. Her rates are very reasonable and she’s a great speaker, guaranteed to inspire your school with Fair Trade! She can tell you on the direct benefits Fair Trade has had to her home community in Africa.
Thank you to those who took part in the world’s biggest Fairtrade tablecloth! Watch this space for pictures!
We love to hear from you. Feel free to email us at schools@fairtradewales.com. We look forward to hearing more and seeing some great pictures! And don’t forget to keep your pictures as evidence towards Fairtrade Schools Status.
Danielle Johnson
Fair Trade Schools Coordinator, Wales
07734 939 370 / 02920 803 293, danielle@fairtradewales.com, www.fairtradewales.com |
| Pethau am ddim am Bythefnos Masnach Deg |
Annwyl Ysgolion,
Ydych chi’n cynnal gweithgaredd ar gyfer Pythefnos Masnach Deg? Rydym am gyfri sawl ysgol sy’n gwneud rhywbeth, mawr neu fach, dros Fasnach Deg.
Cliciwch ar y botwm isod:
|
Archebwch eich CD adnoddau Cotwm Masnach Deg rhad ac am ddim
Mewn cydweithrediad gyda mudiadau eraill, mae Cymru Masnach Deg wedi casglu CD o adnoddau i ysgolion ynglŷn â chotwm, yn cynnwys cynlluniau gwersi, gwasanaethau, ffilmiau byr a mwy i ysgolion cynradd ac uwchradd. I archebu eich copi rhad ac am ddim, anfonwch ebost at schools@fairtradewales.com neu llwythwch sampl o’r deunydd i lawr yn uniongyrchol o’n gwefan:
www.fairtradewales.com/schools/resources/493 (English)
www.fairtradewales.com/ysgolion/adnoddau/614 (Cymraeg) |
|
Cynnal Te Parti
Bydd ysgolion ledled Cymru yn cynnal Te Parti. Mae croeso i chi gysylltu gydag ysgolion eraill i gynnal digwyddiad ar y cyd. Bydd ysgolion yn cynnal Te Parti ar 5 Mawrth (ond os na fedrwch chi ymuno ar y dyddiad cenedlaethol, gallwch gynnal Te Parti ar ddyddiad arall sy’n gyfleus i chi). Y syniad yw codi ymwybyddiaeth am Fasnach Deg, gan ddefnyddio cynnyrch Masnach Deg yn y Te Parti, ond hefyd egluro beth yw Masnach Deg. Mae croeso i chi ddefnyddio’r deunydd gwasanaeth ar y CD adnoddau, neu adnoddau o’n gwefan: www.fairtradewales.com/ysgolion/adnoddau/614
Syniadau Te Parti
Ymysg rhai syniadau Masnach Deg ar gyfer eich Te Parti mae:
Cacennau Masnach Deg a wnaed mewn gwers goginio (gan ddefnyddio siwgr, siocled neu fananas Masnach Deg. Am fwy o rysetiau gweler: www.fairtrade.org.uk/products/recipes.aspx)
- Sudd Masnach Deg (oren, afal, trofannol) ar gael gan nifer o adwerthwyr (e.e. Co-op)
- Te, coffi a siwgr Masnach Deg
- Ffedogau, mygiau, llieiniau bwrdd a llieiniau llestri Masnach Deg (a hyd yn oed menig rwber Masnach Deg ar gyfer golchi’r llestri!) – edrychwch yn Traidcraft (www.traidcraft.org.uk) ac Oxfam am rai o’r eitemau hyn. Mae mygiau a ffedogau ar gael ar online.fairtrade.org.uk, defnydd ar gyfer llieiniau bwrdd ar: www.organiccotton.biz a mwy!
- Gallech droi eich Te Parti yn Bicnic i’r Eirth neu Barti Gwyllt, ac o bosib gwahodd rhieni, teulu ac aelodau o’r gymuned. Neu gallwch ei gysylltu gyda Diwrnod y Llyfr.
- Beth am wneud posteri neu luniau i’w harddangos yn eich Te Parti?
|
|
Cyfnewid
Bydd un miliwn ac un o bobl yn addunedu i gyfnewid! Beth mae hynny’n ei olygu? Meddyliwch am gynnyrch y mae eich ysgol yn ei brynu’n rheolaidd, ac addunedwch i’w gyfnewid am ddewis Masnach Deg. Beth am gyfnewid y te a’r coffi yn yr ystafell athrawon am fersiynau Masnach Deg? Neu’r te a’r coffi sy’n cael ei weini i ymwelwyr? Beth am gyfnewid rhywbeth yn eich siop danteithion am ddewis Masnach Deg? Gallech droi’r broses gyfnewid yn brosiect ysgol, ac edrych ar rhywbeth mwy cyffrous megis gwisgoedd ysgol Masnach Deg, neu ofyn i’ch AALl i ddarparu mwy o gynnyrch Masnach Deg i’r ysgol (gall y disgyblion ysgrifennu llythyrau)? Mae nifer o opsiynau, ond beth bynnag y byddwch yn ei gyfnewid, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar y wefan www.thebigswap.org. Mae pecynnau rhad ac am ddim, yn cynnwys posteri a sticeri ar gael yn Gymraeg ar http://online.fairtrade.org.uk/productslist.asp?attid=43&pagenum=1
ac yn Saesneg ar http://online.fairtrade.org.uk/product_details.asp?id=5010

Yn olaf, os hoffech i Siaradwr Masnach Deg ymweld gyda’ch ysgol, cysylltwch â Martha, cynhyrchydd crefft Masnach Deg, ar 07879 400897. Mae ei graddfeydd yn rhesymol iawn ac mae’n siaradwr gwych, yn sicr o ysbrydoli eich ysgol o ran Masnach Deg! Gall eich hysbysu am fuddiannau uniongyrchol Masnach Deg i’w chymuned cartref yn Affrica.
Diolch i’r rhai a gynorthwyodd gyda lliain bwrdd Masnach Deg fwyaf y byd! Cadwch eich llygaid ar agor am luniau!
Hoffem glywed oddi wrthych. Gallwch anfon ebost atom ar schools@fairtradewales.com. Edrychwn ymlaen at glywed mwy a gweld lluniau gwych! A pheidiwch ag anghofio cadw eich lluniau fel tystiolaeth tuag at Statws Ysgol Masnach Deg.
Danielle Johnson
Cydlynydd Ysgolion Cymru Masnach Deg
07734 939 370 / 02920 803 293, danielle@fairtradewales.com, www.fairtradewales.com |
You're receiving this newsletter because you have signed up to receive
updates from
Fair
Trade Wales - Cymru Masnach Deg
Remove me from this list |
|